Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ebrill 2012
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
1. Ar 23 Ebrill 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 27 Mawrth 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 12 Hydref 2012.
4.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid
cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 7 Rhagfyr 2012, ar yr amod bod y
Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.